Mae gweithwyr post wedi derbyn cytundeb newydd ynglŷn â chyflogau ac amodau gwaith ar ôl misoedd o weithredu a thrafod.

Yn ôl Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, y CWU, fe fyddan nhw’n cael cynnydd cyflog gwerth 6.9% tros dair blynedd, gyda rhagor o sicrwydd swyddi.

Roedd yr undeb wedi cynnal cyfres o streiciau yn ystod yr hydref, gan gyhuddo’r Post Brenhinol o beidio ag ymgynghori’n iawn cyn cyflwyno newidiadau a thoriadau swyddi.

Fe bleidleisiodd y gweithwyr o ddau i un o blaid derbyn y cynnig a fydd yn ymrwymo’r Post i gadw’i staff amser llawn a chadw at ddiswyddiadau gwirfoddol.

Roedd yr anghydfod wedi codi wrth i’r cyflogwyr fynnu bod rhaid newid trefniadau gwaith a moderneiddio wrth wynebu gwasgfa yn y busnes.

Roedd y Post Brenhinol hefyd yn croesawu’r penderfyniad gan ddweud y byddai’n caniatáu iddyn nhw gyflwyno offer newydd a gorffen gwario £2 biliwn ar foderneiddio.

Llun: Gweithwyr post yn protestio adeg un o’r streiciau y llynedd