Mae amddiffynnwr Abertawe, Ashley Williams, yn dal i obeithio coron tymor cofiadwy trwy ennill lle yn y safleoedd ail gyfle.
Fe fydd y cyfan yn cael ei benderfynu mewn awr a thri chwarter ddydd Sul pan fydd yr Elyrch yn chwarae Doncaster yn y Liberty a Blackpool, sydd bwynt ar y blaen iddyn nhw, yn chwarae Bristol City yn Bloomfield Road.
Roedd Williams wedi ennill lle yn nhîm gorau’r Bencampwriaeth gan Gymdeithas y Chwaraewyr Pêl-droed ac, yn ystod y seremoni, fe fu’n siarad gyda rhai o chwaraewyr Blackpool am y frwydr fawr.
‘Perffaith’
“Mi fyddai’n berffaith gorffen tymor gwych trwy ennill lle yn y gemau ail gyfle ddydd Sul,” meddai Williams, sydd hefyd wedi ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn a Chwaraewr Clwb y Flwyddyn yng Nghymru.
“Mae wedi bod yn dymor ardderchog i fi’n bersonol. Allwn i ddim gofyn rhagor – heblaw am ychydig o lwc ddydd Sul.”
Fe fydd rhaid i Abertawe ennill eu gêm nhw a gobeithio y bydd Blackpool yn colli neu’n cael gêm gyfartal.