Dylan Iorwerth yn egluro pam y bydd amryw’n falch o un cyfweliad ar Newsnight neithiwr a pham y dylai llawer gymryd sylw …
Nid pobol Plaid Cymru fydd yr unig rai’n gorfoleddu ar ôl perfformiad Eurfyl ap Gwilym yn gwneud i Jeremy Paxman lyfu’r llawr mewn cyfweliad ar y rhaglen Newsnight.
Yn stafell newyddion y BBC yn Llundain erstalwm, roedd yna gasineb amhur at Newsnight a’u cred eu bod ychydig (sori, lot) yn well na phawb arall. Dw i’n tybio fod y teimlad yn aros.
Ond, yn ogystal â mesur da o schadenfraude, mae yna wers i bob holwr a newyddiadurwr yn y cyfweliad byr am wario cyhoeddus yng Nghymru.
Yn gynta’, mae’n beryg bywyd mynd i holi rhywun heb wybod eich stwff. Fydd gweiddi a brygowthan ddim yn cuddio hynny bob tro.
Yn ail, ddylech chi fyth feddwl eich bod am gael amser hawdd. Fel Robin Day gynt, mae Paxman yn enwog am ei ddirmyg at bobol lai pwysig. Ond tydi dinod a thwp ddim yn golygu’r un peth.
Yn drydydd, nid bod yn ymosodol ydi’r ffordd orau bob tro o gael wil o’i wely. Mae yna gyflwynwyr eraill sy’n mynd ymhellach na Paxman a Humphrys a’u tebyg trwy holi treiddgar, tawel.
Yn bedwerydd, y ffordd i ddelio gyda holwr ymosodol yw bod yn dawel ac addfwyn. Gan Syr Anthony Meyer AS gynt y gwelais i berfformiad tebyg pan oedd holwr yn taflu baw. Fe wenodd y cyn ddiplomydd a defnyddio’i holl urddas i ennill y frwydr yn hawdd.
Ac, yn ola’ a phwysica’, ddylai holwyr fyth feddwl mai nhw sydd bwysica’ ac mai eu perfformiad nhw sy’n cyfri. Yn ogystal â hyder tawel a gwybodaeth Eurfyl ap Gwilym, achos arall cwymp Paxman oedd balchder.
Wrth chwarae tric Ffŵl Ebrill neu Frodyr Bach, y gamp ydi dod o hyd i fan gwan y gwrthrych a chwarae ar hwnnw. Man gwan Jeremy Paxman neithiwr oedd ei gred ddiysgog ei fod yn goblyn o foi a bod y mymryn economegydd o ryw gymdeithas adeiladu ddistadl yn neb.
Yn lle derbyn ffigurau Eurfyl ap Gwilym a mynd ymlaen at gwestiwn arall, mi fynnodd drio profi ei fod yn iawn. Yn hytrach na dweud, “Waeth be ydi’r manylion, be am yr egwyddor?”, fedrai o ddim godde’ ildio mymryn.
Trwy geisio peidio â cholli wyneb, mi gollodd ei drowsus hefyd.
ON
Mae pawb yn cael eu 15 munud o enwogrwydd. Beryg mai dyna fydd hi i Eurfyl ap Gwilym hefyd. Fydd o ddim yn cael gwahoddiad buan yn ôl i stiwdio Newsnight.