Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n edrych ymlaen i Eisteddfod Genedlaethol 2011 yr wythnos hon.
Eisteddfod 2011 sy’n mynd â llawer o’r amser yr wythnos hon, gyda chyfarfod y Pwyllgor Gwaith nos Iau a’r gwaith paratoi a delio gyda phethau sy’n codi’n sgil hyn. Mae un neu ddau’n gofyn fel joc o dro i dro, ‘Be’ ‘dach chi’n ei wneud am weddill y flwyddyn?’ Fel petae popeth yn disgyn i’w le heb unrhyw waith paratoi, a’r Eisteddfod yn trefnu’i hun! Rydan ni bob amser yn gweithio ar ddwy, os nad tair neu bedair Eisteddfod ar y tro, a phethau gwahanol angen eu gwneud – a’u cofio – ar gyfer pob un. Ond, mae’n creu amrywiaeth ardderchog i’r gwaith, ac yn gyfle i sicrhau ein bod yn weithredol mewn o leiaf dwy ran o Gymru ar unrhyw un adeg.
Dim ond ychydig dros ddeufis sydd i fynd cyn Ŵyl y Cyhoeddi yn Wrecsam ar 3 Gorffennaf – cyfle i’r bobl leol gael blas o’r hyn sydd i ddod ymhen ychydig dros flwyddyn, ac mae’r paratoadau ar eu canol. Braf yw gweld bod pobl leol mor gefnogol a brwdfrydig dros ymweliad yr Eisteddfod â’r ardal – dyma’r tro cyntaf i ni ymweld â Wrecsam ers 1977 – ac fe fydd wythnos o weithgareddau’n cael eu trefnu’n lleol dros adeg y Cyhoeddi i ddathlu’r achlysur.
Ac mae’r gair ‘achlysur’ yn un pwysig, gan mai dyma mae pobl Wrecsam am ei greu i’n croesawu, gysa chwisiau, gigs, golff – pob math o weithgareddau – i gyd wedi’u trefnu i ddathlu’r ffaith bod yr Eisteddfod yn dychwelyd i’r ardal.
Ychydig yn ôl, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i ddod â’r rheini sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o gwmni drama newydd Cymraeg yn ardal Wrecsam. Erbyn hyn, mae ganddyn nhw enw – Hap a Damwain, ac maen nhw ar fin cyfarfod eto er mwyn penderfynu pa ddramau y byddan nhw’n eu perfformio’n y lle cyntaf. Y bwriad yw llwyfannu’r perfformiadau cyntaf ddiwedd Mehefin yn Ysgol Morgan Llwyd, fel rhan o ddathliadau’r Cyhoeddi.
Dathlu yw prif thema’r hyn fydd y cwmni’n ei berfformio, gan ddewis dramau byrion o un neu ddwy o’r blynyddoedd pan fu’r Eisteddfod yn ardal Wrecsam yn y gorffennol. Ar hyn o bryd, maen nhw’n dal i fod yn chwilio am ragor o aelodau, ac fe fyddan ni’n helpu i annog pobl i ymuno dros yr wythnosau nesaf.
Yn ôl at Flaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd – gyda thri mis yn unig i fynd erbyn hyn – a rydan ni’n gofyn i bobl sicrhau’u bod nhw’n anfon eu ffurflenni cais atom cyn gynted ag y bo modd. Dyma gychwyn y cyfnod mwyaf prysur i ni yn swyddfa’r Eisteddfod yn Yr Wyddgrug, wrth i ni fynd ati i roi trefn ar yr holl gystadleuwyr a pharatoi copїau a gwybodaeth ar gyfer pawb – sy’n dipyn o waith. Dydd Sadwrn, 1 Mai yw’r dyddiad cau, felly ceisiwch anfon popeth atom mewn pryd.
Ac yn olaf, efallai y byddwch eisoes wedi clywed ein bod yn chwilio am enwau i ddwy babell ar y Maes eleni. Am y tro cyntaf bydd gennym ni ddwy Babell y Cymdeithasau – a rydan ni angen rhoi enwau iddyn nhw. felly, dyma gychwyn yr wythnos hon ar gystadleuaeth genedlaethol i enwi’r ddwy babell. Gellir anfon awgrymiadau atom drwy ebost – gwyb@eisteddfod.org.uk neu drwy lenwi’r ffurflen arlein ar ein gwefan – www.eisteddfod.org.uk. 21 Mai yw’r dyddiad cau, a rydym yn gobeithio cyhoeddi’r enwau erbyn dechrau Mehefin.