Fe fydd Cyngor Caerfyrddin yn cynnal trafodaethau’r wythnos hon ar ôl derbyn cais am drwydded gan gwmni Beach Break Live sy’n awyddus i gynnal gŵyl gerddoriaeth ym mharc gwledig Penbre ger Cefn Sidan.
Fel arfer, mae’r ŵyl sy’n boblogaidd ymhlith myfyrwyr, yn cael ei chynnal yng Nghaint neu Gernyw. Eisoes, mae rhai wedi lleisio’u pryderon am effaith gŵyl o’r fath ar yr ardal leol.
Ddoe, fe fu aelodau Cyngor Caerfyrddin yn ymweld â’r safle ac mae trafodaethau’n parhau heddiw wrth i’r Cyngor ailymgynnull yn y Siambr i drafod ymhellach.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran swyddfa’r wasg fod y trafodaethau’n cynnwys “llawer o bobl leol, y Cyngor, y dref a’r Heddlu.”
Mae disgwyl penderfyniad erbyn Dydd Gwener nesaf.