Mae’r Aelod Seneddol Llafur, Paul Flynn, wedi dweud nad oedd dewis gan Lywodraeth Cymru ond prynu brechiadau i amddiffyn pobol yn erbyn ffliw’r moch.

Roedd Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd yn ymateb i’r newyddion heddiw fod Llywodraeth Cymru wedi gwario £35 miliwn ar reoli ymlediad ffliw’r moch yn y wlad.

Mae’r gwariant mawr yn debygol o ail godi amheuon fod llywodraethau ar draws y byd wedi gorymateb i’r sefyllfa, gan wario miliynau o bunnoedd yn ddiangen wrth geisio rheoli
ymlediad y salwch.

Ond yn ôl Paul Flynn, fu’n cwyno am y gor ymateb yn y gorffennol, roedd y modd yr ymatebodd Cymru i’r sefyllfa yn “ran o batrwm y byd”, wedi i Sefydliad Iechyd y Byd roi’r rhybudd mwyaf difrifol ynglŷn â pherygl y ffliw.

Bydd adroddiad annibynnol yn cael ei gyhoeddi o fewn y misoedd nesaf yn gwerthuso ymateb gwledydd Prydain i’r sefyllfa.

£35 miliwn

Roedd yr wybodaeth am wariant Llywodraeth Cymru wedi cael ei gyhoeddi mewn llythyr gan Edwina Hart i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad.

Roedd Edwina Hart hefyd wedi dweud yn y llythyr fod £60 miliwn wedi cael ei neilltuo i’r Gwasanaeth Iechyd yn 2009 ar gyfer ymdrin â phandemig, a bod amheuaeth ar y dechrau y gallai’r gost fod wedi cyrraedd £80 miliwn yng Nghymru’n unig.

‘Llawer o arian’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb gan ddweud fod angen “amddiffyn a diogelu cymunedau” gan sicrhau “gwerth am arian ar gyfer adnoddau gwerthfawr y Gwasanaeth Iechyd” os oes rhywbeth o’r fath yn digwydd eto.

Cafodd “cryn dipyn o arian” ei wario ar daclo ffliw moch meddai Andrew RT Davies AC, a galwodd ar y Llywodraeth i gadarnhau “nad yw blaenoriaethau iechyd eraill ddim yn dioddef os oes argyfwng tebyg yn y dyfodol”.