Mae’r ffilm ‘Martha, Jac a Sianco’ wedi ennill un o wobrau pwysicaf Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2010 gynhaliwyd yng Ngogledd Iwerddon eleni.
Cipiodd y ffilm, sy’n addasiad o nofel Caryl Lewis, wobr ‘Ysbryd yr Ŵyl’ sy’n cael
yn cael ei roi i ffilm neu raglen deledu mewn iaith Geltaidd.
Cafodd y ffilm chwe gwobr BAFTA’r llynedd. Fe’i cynhyrchwyd gan Apollo (rhan o grwp Boomerang) ac mae’n dilyn bywyd dau frawd a chwaer sy’n byw ar fferm deuluol yng ngorllewin Cymru.
Gwobrau i S4C – “Uchafbwynt”
Cafodd S4C wobrau eraill hefyd. Fe enillodd ‘Y 7 Magnifico a Matthew Rhys’ wobr yn y categori Adloniant Ffeithiol. Yn y gyfres bu saith o sêr Cymreig yn gweithio fel cowbois ar yn Arizona –
Yn y categori chwaraeon, cipiodd y rhaglen ddogfen ‘Carwyn’ gan Green Bay Media y brif wobr am raglen ar , ar fywyd arwr y byd rygbi, Carwyn James y wobr yn y categori Chwaraeon.
Daeth y wobr arall i S4C yng nghategori Addysg y gwobrau. Y rhaglen fuddugol oedd ‘Trip yr Ysgol Gymraeg’, gyda’r chwaraewr rygbi Nicky Robinson yn olrhain hanes addysg drwy’r iaith Gymraeg.
“Mae ennill gwobr ‘Ysbryd yr Ŵyl yn uchafbwynt i greadigrwydd S4C a’r sector gynhyrchu annibynnol yng Nghymru. Mae rhaglenni S4C wedi creu argraff gref unwaith eto yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd,” meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C.