Y newid yng nghefn gwald yw un o brif themâu nofel gyntaf awdures o Lanuwchllyn.

Bydd Haf Llewelyn yn darllen rhannau o ‘Y Graig’ yn yr Ŵyl Bedwen Lyfrau yn Llanrwst dros y Sul.

Mae’r nofel yn mynd i’r afael â dyfodol fferm a chyfrinachau teulu “wrth i’r genhedlaeth iau ddilyn eu cwys ei hunain,” mewn stori sy’n digwydd dros gyfnod o ychydig dros wythnos.

Daw’r awdures o Gwm Nantcol, Ardudwy yn wreiddiol ble mae ei brawd yn dal i ffermio ar fferm deuluol.

“A dweud y gwir nes i ddim meddwl am ddirywiad cefn gwlad fel cefndir i’r stori ar y dechrau.

“Y cwbl nes i oedd meddwl am gymeriadau a sut oedd cymeriadau mewn un teulu yn gweu trwy’i gilydd.

“Dim ond digwydd ei gosod hi ar fferm nes i gan mai dyna ydy fy nghefndir i,” meddai Haf Llewelyn.

“Iaith real”

Mae’r nofel yn cael ei hadrodd drwy lygaid cymeriadau gwahanol ym mhob pennod.

“Gan mai’r cymeriadau sy’n siarad ym mhob un bennod, ro’n i’n teimlo fod rhaid i’r iaith ma’ nhw’n ei ddefnyddio fod yn real. Pe baswn ni’n ‘sgrifennu’n rhy lenyddol yna ni fydda fo ddim yn iaith pob dydd, ” meddai Haf Llewelyn.

• Fe fydd Haf Llewelyn yn trafod Y Graig am 11:30am ddydd Sadwrn yma (1af o Fai) yng Nghanolfan Glasdir Llanrwst fel rhan o’r Ŵyl Bedwen Lyfrau.