Fe fydd Rhianna, Cheryl Cole a Dizee Rascal ymhlith yr artistiaid fydd yn dod i Fangor ac yn cael eu clywed yn fyw ar Radio 1 ym mis Mai. Mae modd archebu ticedi am ddim hyd Mai 3.

Ar brif lwyfan yr ŵyl ar ystad y Faenol ar Sadwrn Mai 22 mae Florence & The Machine, Dizee Rascal, Alicia Keys, Lostprophets, Cheryl Cole, Chipmunk, 30 Seconds To Mars, Justin Bieber a Scouting for Girls.

Ymhlith artstiaid llwyfan ‘In New Music We Trust’ ar y Sadwrn mae Faithless, MGMT, Ellie Goulding, Tinie Tempah, Bombay Bicycle Club, Hadouken, Stornoway a Example.

Ar brif lwyfan y Sul ( Mai 23) fe fydd Rihanna, Pendulum, Biffy Clyro, Ke$ha, JLS, Paramore, Jason Durelo, Paolo Nutini a Pixie Lott.

Ar lwyfan cerdd ‘In New Music We Trust’ ar y Sul fydd Vampire Weekend, You Me At Six, Sub Focus, Plan B, Marina & The Diamonds, Crystal Castles, Kids in Glass Houses a Delphic.

Mae modd cofrestru eich enw a cheidio am diced hyd 7pm ddydd Llun 3 Mai.

Tocynau Am ddim

Mae tocynnau Big Weekend Radio 1 am ddim, ond flwyddyn diwethaf fe wnaeth 350,000 geisio gael lle– er mai dim ond 40,000 o docynnau sydd.

Dywed Radio 1 y bydd ymgeiswyr o Fangor a’r ardal yn cael blaenoriaeth.

Fe fydd hi’n bosibl gwrnado ar gerddoriaeth y Big Weekend a mwynhau cyfweliadau cefn llwyfan ar Radio 1, 1Xtra, BBC Three ar y teledu ac ar wefan Radio 1-Big Weekend.

Am fwy o fanylion ac i gofrestru ewch i : http://www.bbc.co.uk/radio1/bigweekend/2010/tickets/