Roedd cannoedd o blant a phobol yng nghanol tref Caernarfon heddiw wrth i’r Frenhines a’r Dug Caeredin gyrraedd fel rhan o’u taith o’r Gogledd. Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ymweld â Chaernarfon ers 35 mlynedd.

Roedd cannoedd yn y dorf ond llawer yn teimlo siom na chawsant weld y frenhines yn teithio drwy ganol y dref.

“Ro’ ni’n siomedig na ddaeth y frenhines drwy faes Caernarfon. Roedd cannoedd yno’n disgwyl i’w gweld,” meddai Delyth Ross o Lanrug.

“Fe ddaeth hi drwy waelod y castell, yn gyflym – heb i neb gael cyfle i’w gweld,” meddai.

Dywedodd Joan Roberts o Gaernarfon mai “dim ond cyfle i weld lliw ei het binc” a gafodd wrth iddi deithio hyd waelod y castell. “Mae’n arferol i’r teulu brenhinol ddod drwy ganol y dref,” meddai.

Yn ôl Margaret Jones o Gaernarfon roedd “pawb yn falch iawn o’i chael yma” ond mae’n “bechod” na fyddai wedi cael cyfle i’w gweld yn dod i mewn i Gaernarfon. Fe ddisgrifiodd y frenhines fel “llysgennad grêt i Gaernarfon.”

Roedd Lesley Roberts, o Gaernarfon yn siomedig am reswm gwahanol.

“Dw i’n teimlo’n siomedig na chafodd y sgowtiaid a’r girl guides wahoddiad yma gan ein bod yn dathlu 100 mlynedd yng Nghaernarfon. Byddai gwahoddiad wedi bod yn neis. Ond, wedi dweud hynny mae’n braf gweld y frenhines yn ôl yma.”

Yr ymweliad yn “ddifyr”

“Dwi ddim yn gefnogwr mawr. ‘Dw i jest yn meddwl bod o’n ddifyr; mae ‘na lot o fy ffrindiau ysgol yn dod hefyd,” meddai Emma Edwards, disgybl chweched dosbarth o Gaernarfon wrth Golwg360.

Fe ddywedodd dyn arall o Lanberis ger Caernarfon ei fod wedi dod i brofi’r digwyddiad oherwydd bod gweld y frenhines “mewn person yn gyfle unigryw.”

I Ceilia Nichols, ymwelydd o Gaint – dyma’r “tro cyntaf” iddi weld y frenhines. Fe ddywedodd y byddai’n “cofio ei gwisg binc am oes.”

Roedd yn falch fod y frenhines wedi “cydnabod y dorf” o’r balconi ble cyflwynodd ei mab, Tywysog Charles, i’r dorf yn ystod yr Arwisgiad yn 1969.

Disgwyl mwy o dorf

“Ro’ ni’n disgwyl gweld criw mwy a dweud y gwir. Er roedd yn rhywbeth cyffrous iawn i’r plant,” meddai Alan Ducklin o Gaernarfon.

Fe ddywedodd Tanwen Bryn Lloyd o Gaernarfon fod ei merch, Sara Lois sydd bron yn naw oed wedi bod yn teimlo’n “hynod gyffrous” am ymweliad y frenhines.

“Fe ddaeth hi i’n llofft ni ben bore yn excited fod y cwîn yn dod. Roedd hi’n son am fynd i’r castell a’r trên, a finnau’n trio tawelu mymryn arni.

“Fe ddylai’r frenhines ddod i Gymru’n amlach gan fod Prins Charles yn Dywysog Cymru.”

Ar ôl gadael y castell aeth y cwpwl ar y trên fach i Dinas – siwrne tua deng munud o’r dref. Yno bu’n dadorchuddio enw’r cerbyd Dosbarth Cyntaf, Glaslyn cyn gadael mewn Bentley coch tywyll.