Cafodd wyau a bomiau mwg eu taflu yn senedd yr Wcráin heddiw wrth i Aelodau Seneddol bleidleisio dros gynnal y cyswllt clos â Rwsia.

Fe gytunwyd i ymestyn y cytundeb gyda lluoedd Rwsia yn y Mor Du am 25 mlynedd arall, gan ddigio’r rhai sydd eisiau pellhau oddi wrth Moscow.

Bu protestwyr yn taflu wyau at lefarydd y llywodraeth Volodymyr Lytvyn wrth iddo agor y sesiwn a bu raid iddo gael swyddog i ddal ambarél o’i flaen i’w gysgodi rhag yr ymosodiadau.

Arwydd o glosio at Rwsia

Mae’r cytundeb rhwng arlywyddion y ddwy wlad yn cael ei weld fel arwydd clir fod Rwsia unwaith eto’n cael dylanwad dros yr Wcráin.

Roedd y cyn Arlywydd Viktor Yushchenko wedi ceisio symud y wlad yn agosach at orllewin Ewrop yn ystod ei dymor pum mlynedd. Ond mae ei olynydd, Viktor Yanukovych, ddaeth i rym ym mis Chwefror, yn agosach at y Kremlin.

Mae ymestyn y cytundeb wedi digio cenedlaetholwyr sy’n gweld y llongau fel arwydd o rym Rwsia ar dir Wcráin.

Cafodd yr estyniad i’r cytundeb ei basio gyda 236 o blaid o blith yr 450 aelod.