Cafodd protestiwr yn erbyn hiliaeth ei ladd ar ôl cael ei daro gan blisman yn 1979 yn ôl adroddiad gyhoeddwyd heddiw.
Yn ôl Scotland Yard, cafodd Blair Peach, 33, ei daro ar ei ben gan aelod o heddlu’r Met mewn gwrthdystiad yn erbyn y National Front yn Southall, Llundain.
Bu perthnasau’r gwr yn ymgyrchu am flynyddoedd gan alw am gyhoeddi’r adroddiad cyfrinachol a heddiw fe welodd y ddogfen olau dydd am y tro cyntaf. Cafodd ei ysgrifennu gan gyn uwch swyddog yn adran gwynion mewnol yr Heddlu Metropolitan.
Daeth y penderfyniad i gyhoeddi ar ôl pwysau gan y cyhoedd yn y misoedd ar ôl marwolaeth Ian Tomlinson yn ystod protestiadau G20.
Ymateb cyfreithwyr ar ran partner Blair Peach
Mae copi o’r adroddiad wedi ei roi yn nwylo’r cyfreithwyr sy’n cynrychioli partner Blair Peach, Celia Stubbs.
Heddiw ar Radio 4 dywedodd y cyfreithiwr Raju Bhatt ei bod hi’n glir fod Blair Peach wedi marw ar ôl cael ei daro gan heddwas ac mae’r teulu yn disgwyl i’r ffaith honno gael ei chydnabod yn gyhoeddus.
“Byddai hynny’n gam ymlaen. Byddai’n golygu fod Heddlu Llundain o’r diwedd yn cyfeirio at y dystiolaeth yn eu herbyn.
“Wrth gwrs, mae’r heddlu’n gorfod gwneud gwaith anodd. Rydym yn rhoi pwerau ac arfau iddyn nhw ar gyfer y gwaith – ond gyda hynny daw dyletswydd i ddefnyddio’r pwerau a’r arfau hynny mewn ffordd gyfrifol a dyletswydd i wneud yn siŵr fod unrhyw swyddog sy’n eu cam ddefnyddio yn cael ei gosbi.”
Llun: Galarwyr yn cario arch Blair Peach tuag at fynwent dwyrain Llundain