Bu farw’r nofelydd a’r dramodydd Alan Sillitoe yn ysbyty Charing Cross yn Llundain. Roedd yn 82 oed.

Roedd yr awdur a aned yn Nottingham yn enwog fel un o garfan o awduron ffuglen a oedd yn cael eu hadnabod fel yr Angry Young Men a ddaeth i’r amlwg yn yr 1950au ym Mhrydain.

Roedd Alan Sillitoe wedi gadael yr ysgol yn 14 oed a bu’n gweithio mewn ffatri feiciau yn Nottingham cyn mynd i’r RAF.

Ei nofel fawr gyntaf oedd Saturday Night and Sunday Morning a gafodd ei chyhoeddi yn 1958, nofel a gafodd ei throi’n ffilm gydag Albert Finney’n chwarae’r prif ran.

Cafodd ei ail nofel, The Loneliness of the Long Distance Runner, hefyd ei gwneud yn ffilm gyda Tom Courtney yn chwarae’r prif ran.

Caiff y ddwy nofel eu hystyried yn enghreifftiau clasuron o ddramâu kitchen sink sy’n adlewyrchu realiti bywyd pobl gyffredin ym Mhrydain tua chanol yr ugeinfed ganrif.

Cyhoeddodd yn ogystal amryw o gyfrolau o farddoniaeth, llyfrau plant a dramâu.

Mae’n gadael gweddw, sef y bardd Ruth, Fainlight, ei ferch Susan a’i fab David, a ddywedodd ei fod yn gobeithio y byddai ei dad yn cael ei gofio am ei gyfraniad i lenyddiaeth.