Athletwyr o Ethiopia ac o Rwsia yw pencampwyr marathon Llundain heddiw.

Enillydd y dynion oedd Tsegaye Kebede o Ethiopia, a lwyddodd i gwblhau’r cwrs 26.2 milltir mewn 2 awr, 5 munud a 19 eiliad. Ef a ddaeth yn ail y llynedd.

Liliya Shobukhova o Rwsia oedd y bencampwraig o blith y merched, ar ôl iddi gwblhau’r ras mewn 2 awr 22 munud.

Efallai nad oedd yn syndod I’r ferch a ddaeth yn ail y llynedd, Mara Yamauchi, lithro I’r 10fed safle, gan fod y daith i Lundain o Albuquerque, New Mexico, wedi cymryd chwe diwrnod iddi o achos y llwch folcanig.

Andy Lemoncello oedd y Prydeiniwr cyflymaf, gan ddod yn wythfed ar ôl cwblhau’r ras mewn 2 awr 13 munud.

Mae tua 36,000 o athletwyr wedi bod yn rhedeg ar hyd strydoedd Llundain heddiw.

Codi arian at amrywiol achosion da y mae’r mwyafrif llethol o redwyr, gyda llawer ohonyn nhw mewn pob mathau o wisgoedd ffansi, gan gynnwys 34 o redwyr sy’n ffurfio neidr gantroed.

Ymhlith yr amrywiaeth o selébs mae’r cogydd teledu Gordon Ramsey a’r dywysoges Beatrice.