Mae’r grŵp terfysgol Al Qaida wedi cyhoeddi bod ei ddau arweinydd yn Irac wedi cael eu lladd.

Mae hyn yn cadarnhau honiad yr wythnos ddiwethaf gan lywodraethau Irac ac America iddyn nhw ladd y ddau ddyn mewn cyrch ar dŷ diogel yn ninas Tikrit, i’r gogledd o Baghdad.

Mae Is-arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden, wedi disgrifio marwolaethau Abu Omar al-Baghdadi ac Abu Ayyub al-Masri fel “ergyd a allai ddinistrio Al Qaida yn Irac”. Mae’r marwolaethau’n hwb hefyd i ymdrechion Prif Weinidog Irac, Nouri al-Maliki, i aros yn ei swydd.

Yn eu datganiad ar y we dywed Al Qaida na fydd marwolaethau’r ddau arweinydd yn effeithio ar eu gweithredoedd yn Irac.
Mewn teyrnged i’r ddau, dywed y datganiad:

“Ar ôl taith hir yn llawn aberth ac ymladd anwiredd, mae dau farchog wedi ymuno â’r grŵp o ferthyron. Cyhoeddwn fod cenedl y Mwslimiaid wedi colli dau o arweinwyr jihad, a dau o’i dynion sy’n arwyr ar lwybr jihad.”

Daw’r datganiad ddeuddydd ar ôl i 72 o bobl gael eu lladd mewn wrth i fannau addoli Shiite gael eu bomio. Y gred yw bod yr ymosodiadau hyn yn ymgais i ddial am ladd y ddau arweinydd.

Llun: Baner sy’n cael ei defnyddio’n aml yn neunydd propaganda Al Qaida yn Irac.