Munster 11 Y Gweilch 15
Roedd yna fuddugoliaeth bwysig i’r Gweilch ym Munster neithiwr.
Mae’n golygu eu bod nhw fwy neu lai’n sicr o’u lle yng ngemau ychwanegol Cynghrair Magners.
Fe lwyddon nhw i ennill yn Limerick am y tro cynta’ erioed wrth i’r maswr Dan Biggar gicio pob un o’u pwyntiau.
Fe ddaeth y Cymry dan bwysau yn y munudau ola’ ar ôl i Munster gael cais trwy eu maswr nhwthau, Ronan O’Gara, ond fe ddaethon nhw trwyddi.
Y Gweilch oedd wedi bod gryfa’ trwy’r gêm ond roedden nhw wedi methu â manteisio ar gyfnod pan oedd Munster i lawr i 14 dyn. Fe fuon nhwthau ddyn yn brin wedyn wrth i Ryan Jones gael ei anfon i’r gell gosb.
Ar ôl y chwiban ola’, fe ddywedodd Dan Biggar, chwaraewr gorau’r gêm, bod y fuddugoliaeth yn un anferth ar ôl i’r Gweilch ddiodde’ ym Munster tros y blynyddoedd diwetha’.
‘Pwysig’
Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod y Gweilch wedi ennill dwy o’u tair gêm ddiweddar yn Iwerddon ac wedi cael pwynt bonws yn y llall.
Roedd curo Munster yn ddigwyddiad pwysig o ran dyfodol y Gweilch, meddai’r prif hyfforddwr, Sean Holley. Yn eironig, colli yng Nghwpan Heineken oedd wedi sbarduno’r tîm, meddai.
Roedd colli o bwynt i Biarritz wedi rhoi’r hyder i’r tîm eu bod nhw’n gallu cystadlu gyda’r gorau yn Ewrop, meddai.
Llun: Dan Biggar