Fe fu’n rhaid i’r Swyddfa Dramor ymddiheuro i’r Pab oherwydd dogfen fewnol yn gwneud hwyl am ben ei ymweliad â gwledydd Prydain.
Fe ddatgelodd papur newydd bod gwas sifil wedi dosbarthu dogfen yn awgrymu gwahanol syniadau am bethau y gallai’r Pab eu gwneud.
Roedd y rheiny’n cynnwys agor clinig erthylu, lansio math o gondoms pabyddol a bendithio priodas rhwng hoywon – pob un yn hollol groes i bolisïau’r eglwys Babyddol.
Roedd hefyd yn awgrymu lansio llinell gymorth cam-drin plant a rhoi’r sac i esgobion “amheus”.
Yn ôl y Llywodraeth, mae’r gwas sifil wedi ei symud i adran arall – swyddog cymharol isel oedd e, medden nhw, a doedd y ddogfen ddim yn un o ddifri.
Yn ôl papur y Sunday Telegraph, roedd y ddogfen yn crynhoi syniadau o gyfarfod i drafod yr ymweliad ac roedd yn nodi bod ambell un yn “annhebygol”.
Fe fydd y Pab Bened XVI yn ymweld â gwledydd Prydain ym mis Medi.