Mae plaid genedlaethol yr Alban yn ceisio codi arian i ddod ag achos llys yn erbyn y BBC tros ddadleuon arweinwyr y pleidiau.

Fe gyhoeddodd yr SNP eu bod wedi lansio apêl am £50,000 er mwyn herio penderfyniad y Gorfforaeth i wrthod lle i’w harweinydd hi ac arweinydd Plaid Cymru.

Pe bai’r achos yn llwyddo, fyddai’r ddadl nesa’ ddim yn cael ei dangos ar setiau teledu yn yr Alban. Y BBC sy’n gyfrifol am ei darlledu.

Er bod Plaid Cymru’n cefnogi’r cais, maen nhw wedi dweud wrth y BBC na allan nhw ddod ag achos tebyg, oherwydd bod y system gyfreithiol yn wahanol yma.

‘Cywilydd democrataidd’

Yn ôl arweinydd yr SNP, Alex Salmond, mae’r penderfyniad i hepgor arweinwyr y pleidiau cenedlaethol yn “gywilydd democrataidd”.

Roedd yna ddyletswydd ar y BBC – “darlledwr cenedlaethol yr Alban” – i gynrychioli’r sefyllfa wleidyddol yno yn deg a llawn, meddai.

Mae’r SNP a’r Blaid wedi bod yn protestio ers pan wnaed y penderfyniad i gael y dadleuon rhwng arweinwyr y tair plaid Brydeinig fawr – eu dadl nhw yw bod y rhaglenni’n dylanwadu’r uniongyrchol ar seddi yng Nghymru a’r Alban.

Mae’r SNP yn dweud y dylai Alex Salmond gael ei gynnwys yn nadl y BBC neu fod angen cynnal pedwaredd dadl, gyda lle iddo ef a Ieuan Wyn Jones ochr yn ochr â’r arweinwyr Prydeinig.

Dadl y darlledwyr yw bod y dadleuon yn canolbwyntio ar yr arweinwyr a allai ddod yn Brif Weinidog.

Llun: Alex Salmond