Fe gafodd y Ceidwadwyr eu cyhuddo o gynllunio i daro Cymru’n galed gyda thoriadau mewn gwario cyhoeddus.
Yn ôl Plaid Cymru, roedd cyfweliad teledu gan yr arweinydd Torïaidd yn dangos y bydden nhw’n torri mwy lle’r oedd gwario cyhoeddus yn uchel.
Ar y rhaglen Newsnight, roedd David Cameron wedi sôn yn benodol am Ogledd Iwerddon a gogledd-ddwyrain Lloegr ond, yn ôl y Blaid, fe fyddai hynny’n cynnwys Cymru hefyd.
Er bod y Ceidwadwyr wedi addo gwarchod yr arian sy’n dod i Gymru, roedd John Dixon, ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerfyrddin a Phenfro, yn cyhuddo’r Ceidwadwyr o bigo ar yr ardaloedd tlota’.
“Mae’r Ceidwadwyr wedi targedu ardaloedd o’r Deyrnas Unedig ble mae gwario cyhoeddus yn gyfran uwch o’r economi,” meddai. “Yn y bôn, mae’r Ceidwadwyr yn dweud mai’r ardaloedd gyda’r angen mwya’ fydd yn wynebu’r toriadau mwya’.”
Tebyg oedd thema rali Plaid Cymru yn Aberystwyth ddoe. O dan y thema “Cymru’n Gyntaf”, fe fu’r arweinydd Ieuan Wyn Jones yn honni mai hi fyddai’r unig blaid i roi blaenoriaeth i Gymru.
Llun: Ieuan Wyn Jones, yn areithio yn Aberystwyth ddoe