Mae dyn ifanc wedi ei gyhuddo o lofruddio gŵr anabl yn Y Rhyl.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, fe fydd y dyn 22 oed yn ymddangos o flaen ynadon Prestatyn yfory.
Daethpwyd o hyd i gorff Philip Holmes yn ei fflat yn Y Rhyl ddydd Gwener Ebrill 16, y diwrnod cyn iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 57 oed.
Roedd wedi byw yn yr ardal ers i’w deulu symud yno o Fanceinion fwy na 40 mlynedd yn ôl.
Roedd yn anabl ar ôl cael damwain pan oedd yn ddeunaw ac, yn ôl ei frodyr a’i chwiorydd, roedd wedi symud i’r fflat yn ddiweddar ac yn benderfynol o roi trefn ar ei fywyd.
Fe gafodd dyn ei arestio yr wythnos ddiwetha’.
Lliun: Philip Holmes