Wrth ddechrau ar ei hwythnos lawn ola’, mae ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol yn troi o amgylch y syniad o Senedd Grog.

Mae’r casgliad diweddara’ o arolygon barn yn dangos mai dyna’r canlyniad mwya’ tebygol, gyda’r Ceidwadwyr yn dal mwya’ o seddi.

Mewn erthyglau papurau newydd, mae arweinwyr a ffigurau amlwg yn y pleidiau wedi bod yn ymateb i’r tebygrwydd mai’r Democratiaid Rhyddfrydol fyddai’n dal y fantol.

“Os fflyrtiwch chi gyda Nick Clegg, fe fyddwch yn gorffen trwy briodi David Cameron,” meddai Peter Mandelson o’r Blaid Lafur.

Mewn llawer o seddi, meddai, brwydr rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr oedd hi ac fe fyddai pleidlais i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn helpu’r Torïaid i ennill.

Llafur yn ‘amherthnasol’

Ond fe ddywedodd arweinydd y Democratiaid mai “nonsens” oedd awgrymu y byddai’n fodlon cynnal breichiau Llafur pe baen nhw’n ennill mwy o bleidleisiau na neb arall gyda llai o bleidleisiau.

Roedd Llafur yn “amherthnasol”, meddai, ac fe fyddai’n taro bargen gyda’r blaid oedd â mwya’ o seddi a phleidleisiau.

Newid y system bleidleisio

Tegwch neu annhegwch etholiadau fydd un o’r pynciau pwysica’ os bydd bargeinio ar ôl Mai 6.

Roedd gan Nick Clegg rybudd i’r Ceidwadwyr hefyd, gan ddweud y bydden nhw’n gwneud camgymeriad pe baen nhw’n gwrthod bargen gyda’r Democratiaid, oherwydd eu gwrthwynebiad i newid y system bleidleisio.

Ond, ar hyn o bryd, mae David Cameron yn gwrthod y syniad hwnnw. “Mae angen system lle gallwch chi gael gwared ar lywodraeth,” meddai.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi pwysleisio’r posibiliadau iddyn nhw mewn senedd grog – fe fydden nhw ac ASau’r SNP yn yr Alban yn ffurfio “bloc Celtaidd” cry’, medden nhw, i ymladd tros fuddiannau’r ddwy wlad.

Yr arolygon barn heddiw

Mae’r rhan fwya’ o’r polau piniwn yn awgrymu patrwm tebyg, gyda’r Ceidwadwyr yn gynta’, y Democratiaid Rhyddfrydol yn ail a Llafur yn drydydd.

Mae pedwar ohonyn nhw’n gosod y pleidiau fel hyn:

Ceidwadwyr – rhwng 32 a 35
Dem. Rhydd – rhwng 28 a 32
Y Blaid Lafur – rhwng 23 a 28

Yr un eithriad yw arolwg Mori i’r News of the World, sy’n gosod Llafur yn ail a’r Democratiaid Rhyddfrydol i lawr ar 23, eu lefel cyn dadleuon teledu’r arweinwyr.