Mae disgwyl i Gavin Henson ddychwelyd i chwarae rygbi’r tymor nesaf, wedi iddo ddatgelu ei gynlluniau am ei ddyfodol â’r Gweilch.

Bydd canolwr Cymru yn gobeithio ail-gychwyn ei yrfa ym mis Medi – 12 mis cyn y Cwpan y Byd yn Seland Newydd ac 18 mis ers iddo chwarae ei gêm ddiwethaf dros y rhanbarth.

Mae Henson wedi cymryd hoe ddi-dâl o’r gêm yn dilyn cyfres o anafiadau a wnaeth ei atal rhag cymryd rhan yn Nhaith y Llewod i Dde Affrica’r haf diwethaf.

Roedd yna bryderon na fyddai’r Cymro yn chwarae rygbi eto, ond mae cadeirydd y Gweilch, Mike Cuddy, wedi dweud y bydd e yn ei ôl.

“Mae Gavin wedi dweud y bydd e nôl tymor nesaf ac yn chwarae cyn diwedd y flwyddyn,” meddai Cuddy wrth bapur newydd y Daily Mail.

“Roedd yr holl anafiadau wedi diflasu Gavin, ond mae’n teimlo’n llawer gwell ar ôl cyfnod allan o’r gêm,” ychwanegodd cadeirydd y Gweilch.

Fe fydd y newyddion yn hwb mawr i’r rhanbarth ac i Warren Gatland wrth iddo baratoi i arwain Cymru yng Nghwpan y Byd yn 2011.