Mae’r Heddlu’n apelio am dystion ar ôl iddyn nhw ddod o hyd i ddyn yn farw yn ei gartref yn Rhyl.

Fe gafodd yr Heddlu eu galw i’w gyfeiriad am tua 11.30am ddydd Gwener 16 Ebrill 2010, ar ôl adroddiadau fod dyn wedi cael ei ffeindio mewn fflat yn Ffordd Edward Henry, Rhyl.

Fe aeth parafeddygon a swyddogion yr Heddlu i’r cyfeiriad ble y cafwyd y dyn 56 mlwydd oed, Philip Holmes, oedd yn byw yno ar ei ben ei hun, yn farw.

Fe gafodd archwiliad post mortem ei gynnal ar y corff ddydd Llun 19eg Ebrill 2010. Does dim eboniad eto ynglŷn â beth achosodd ei farwolaeth.

Mae’r heddlu wedi rhoi gwybod i’w berthnasau agosaf.

Ymchwiliad yr Heddlu yn dechrau

Mae ymchwiliad Heddlu wedi dechrau ac maen nhw’n ceisio olrhain symudiadau olaf Philip Holmes.

Mae Ditectif Arolygydd Martin Davies yn apelio ar bobol a oedd yn nabod Philip Holmes i gysylltu gyda’r heddlu.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â swyddfa CID ar 101, 0845 6071001 (llinell Cymru), neu Taclo’r Taclau Cymru ar 0800 555111. Fel arall mae modd cysylltu drwy neges destun 66767 neu e-bost northwalespolice@north-wales.police.uk.