Mae cynghorwyr tref Rhydaman yn chwilio am safle addas i gynnal Eisteddfod Genedlaethol 2014 yn yr ardal.

Maen nhw’n awyddus i unrhyw berchennog tir sydd â 140 erw o dir sy’n cynnwys 32 o aceri gwastad i gysylltu â chlerc y dref, Miriam Phillips ar 01269 850870.

“Os oes gan dir feddiannwr dir fel hyn, mae’n llai o gost i’r Eisteddfod,” meddai Miriam Phillips.

Fe ddywedodd y clerc fod un safle wedi’i awgrymu eisoes, ond nad yw’r Eisteddfod wedi dod yn ôl atynt ynglŷn a chost y cynllun.

“Rydyn ni eisiau gwneud y cynnig yn agoredi bawb yn ardal Rhydaman,” meddai cyn dweud y bydd Grŵp Tref a Chymunedau cynghorau Rhydaman yna’n trafod pasio’r ceisiadau ymlaen i’r Eisteddfod.

Mae disgwyl penderfyniad terfynol ynglŷn a’r safle ym mis Gorffennaf, 2012.