Dyw’r Seintiau Newydd ddim am gymryd unrhyw beth yn ganiataol wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer wythnos olaf y tymor.

Mae eu buddugoliaeth o 4-0 yn erbyn Hwlffordd dros y penwythnos wedi sicrhau bod ganddyn nhw wyth pwynt o fantais dros Lanelli sy’n ail yn yr adran – ond mae tîm Andy Legg wedi chwarae dwy gêm yn llai.

Er mwyn cipio’r teitl, fe fydd rhaid i Lanelli ennill y tair gêm sydd ganddyn nhw’n weddill gan obeithio y bydd Aberystwyth yn gallu curo’r Seintiau Newydd.

Ond os na fydd Llanelli’n ennill yn erbyn Castell-nedd nos Fawrth ac wedyn yn erbyn Y Rhyl nos Iau, fe fydd y Seintiau Newydd yn bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru cyn y penwythnos.

Er gwaethaf safle cryf tîm Park Hall, mae’r rheolwr cynorthwyol yn parhau i fod yn wyliadwrus.

“Mae Aberystwyth wastad yn lle anodd i gael canlyniad yn enwedig y tymor hwn gan eu bod nhw’n gwthio am y trydydd safle,” meddai rheolwr cynorthwyol y Seintiau Newydd, Mike Davies.

“R’yn ni am ennill y bencampwriaeth a sicrhau ein lle yng Nghynghrair y Pencampwyr. Dyma’r gystadleuaeth orau ar gyfer clybiau ac mae’n anrhydedd cael bod yn rhan ohoni.

“Ond fe fydd rhaid i ni gael canlyniad yn Aberystwyth, ac mae’n dda bod y cyfan yn ein dwylo ni.”