Mae’r cyfartaledd oedran yn ysgolion Cymru yn disgyn wrth i fwy a mwy o athrawon hŷn gyrraedd oedran ymddeol.
Mae ystadegau diweddaraf Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru’n dangos fod y ganran o athrawon cofrestredig o dan 45 mlwydd oed wedi cynyddu’n gyson o 48% i 57% yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf.
Mae’r ffigyrau newydd yn dangos tuedd tebyg ymysg penaethiaid ysgolion yn ystod y pedair blynedd diwethaf.
Mae’r canran o’r 1,738 o benaethiaid yng Nghymru sydd dros 50 mlwydd oed wedi gostwng o 66% yn 2006 i 58% yn 2010 a’r canran sy’n eu 40au wedi cynyddu o 26% i 32% yn ystod yr un cyfnod.
Oed cymhwyso’n gostwng
Yn ogystal â hynny mae’r oedran y mae pobol yn cymhwyso fel athrawon yn gostwng.
Bedair blynedd yn ôl dim ond 41% o’r rheini oedd yn derbyn cymhwyster dysgu oedd o dan 25 ond mae’r nifer wedi cynyddu’n sylweddol i tua 56%.
Ond mae’r ffigurau diweddarafyn dangos fod dysgu’n dal i fod yn ail ddewis gyrfa i nifer o bobol.
Mae tua 20% o’r rhai sydd newydd gymhwyso’n ymuno â’r proffesiwn yn eu tridegau a’u pedwardegau.
Caiff y ffigyrau hyn eu cynnwys yn ystadegau blynyddol CACC, y corff sy’n rheoleiddio’r proffesiwn ac yn hyrwyddo gwelliannau mewn safonau dysgu.
‘Gobeithiol’
“Er bod profiad yr athrawon hŷn sy’n ymddeol yn werthfawr dros ben, r’yn ni’n obeithiol iawn ynglŷn a’r twf yn y canran o athrawon sydd ar ganol eu gyrfaoedd,” meddai Gary Brace, prif weithredwr CACC.
“Yn ôl pob tebyg, dyma’r genhedlaeth o athrawon sydd wedi’i hyfforddi a’i pharatoi orau erioed. Mae’r mwyafrif yn hyddysg mewn TG ac felly’n medru gwneud y mwyaf o dechnoleg yn y dosbarth.”