Fe gafodd arholiad Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, 2010 ei gynnal am y tro cyntaf erioed yn yr Ariannin eleni.
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yw’r corff proffesiynol cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer cyfieithwyr Cymraeg/Saesneg sy’n cyfieithu testun neu’n cyfieithu ar y pryd.
Am 9 o’r gloch, fore Sadwrn 17 Ebrill, fe gafodd drysau Coleg Camwy yn Heol Michael D. Jones yn y Gaiman, Chubut, eu hagor i groesawu dau ymgeisydd, un o Drevelin yn yr Andes a’r llall o Buenos Aires.
Bu’r ddau wrthi’n ‘ddyfal’ yn ôl y Gymdeithas am ‘awr a hanner’ dan oruchwyliaeth Mrs Nant Roberts, sy’n athrawes Gymraeg yn ysgolion Dyffryn Camwy, ac sydd hefyd yn aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Ar ddiwedd yr arholiad, fe gafodd gwaith yr ymgeiswyr eu hanfon drwy e-bost i Gymru i gael ei farcio.
Mae gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru dair lefel o aelodaeth broffesiynol. Rhaid llwyddo yn nhrefn arholi’r Gymdeithas i ennill aelodaeth ohoni.