Mae Plaid Cymru wedi datgelu ‘tri cham radical’ er mwyn diwygio gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig, heddiw.

Yn ôl y blaid fe fydd y camau yn gwneud y system etholiadol yn decach ac yn “gwneud i bobol deimlo eu bod nhw’n rheoli eu cymdeithas”. Y tri cham yw:

• Diwygio Tŷ’r Arglwyddi
• Gostwng oedran pleidleisio i 16
• Cyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol

Senedd i’r ‘bobol’

Yn ôl Hywel Williams, fydd yn gobeithio cadw gafael y blaid ar sedd newydd Arfon, nawr yw’r amser i ‘weithredu’n radical’ er mwyn rhoi grym i’r bobol.

Dywedodd fod “pleidiau Llundain wedi dangos nad oes modd ymddiried ynddynt i roi terfyn ar y drefn hen-ffasiwn ac elitaidd.”

“Mae’r Blaid wedi galw erioed am ddiwygio’r senedd mewn modd radical, a dylai democrateiddio Tŷ’r Arglwyddi fod yn gam cyntaf allweddol.

“Mae’n anhygoel fod gennym heddiw ddosbarth o bobol anetholedig ac anatebol yn chwarae rhan bwysig mewn pob deddfwriaeth.

“Mae gan Arglwyddi hyd yn oed yr hawl i ymyrryd â gallu’r Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu yng Nghymru.

“Nawr yw’r amser,” meddai i “wneud i bobol deimlo bod ganddynt fesur o reolaeth dros eu cymdeithas eu hunain.”


Cynrychiolaeth gyfrannol

Dywedodd ei fod yn awgrymu y dylid cyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol er mwyn gwneud yn siŵr fod y senedd yn adlewyrchu’n deg farn y cyhoedd sy’n pleidleisio.

“Fel y mae pethau’r sefyll, nid y blaid gyda’r mwyaf o gefnogaeth gan yr etholwyr sydd o raid yn ennill yr etholiad,” meddai.

Dywedodd Hywel Williams ei fod o’n “chwerthinllyd” fod unigolyn 16 oed yn gallu priodi neu ymuno â’r fyddin – ond nad oes ganddyn nhw lais ynglŷn yn phwy sy’n rhedeg y wlad.

“Felly mae Plaid Cymru yn credu mewn gostwng yr oedran pleidleisio i 16 a rhoi llais i bobol ifanc yn ein democratiaeth,” meddai.

“Mae’n rhaid i ni lywodraethu ar gyfer yfory yn ogystal â heddiw, ac y mae llais y genhedlaeth iau yn allweddol i gynllunio ar gyfer y dyfodol.”