Mae llys yn ne China wedi dedfrydu cyn feddyg a gafwyd yn euog o drywanu wyth o blant i farwolaeth.

Mae’n rhaid i uchel lys China gytuno i bob dedfryd marwolaeth. Penderfynwyd i wrthod apêl Zheng Minsheng, 41 oed, yn ôl Asiantaeth Newyddion Xinhua.

Yn ôl yr asiantaeth newyddion, doedd gan Zheng Minsheng ddim hanes o broblemau iechyd meddwl.

Roedd ymchwiliadau heddlu yn dweud ei fod wedi llofruddio’r plant allan o “rwystredigaeth” ar ôl gorffen gyda’i gariad.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ymosodiadau o’r fath mewn ysgolion yn China. Diffyg triniaeth ar gyfer afiechydon meddwl a diffyg diogelwch mewn ysgolion sy’n cael y bai.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth dyn ag afiechyd meddwl drywanu a lladd disgybl a dynes 81 mlwydd oed yn nhalaith Guangxi, yn ogystal ag anafu pum person arall.