Mae Cadeirydd Pwyllgor yn y Cynulliad wedi gwrthod honiadau’r Llywodraeth bod un o’u hadroddiadau’n annheg.
Roedd adroddiad Pwyllgor Cyfrifon am y cynllun Cymunedau’n Gyntaf yn galed ond wedi ei seilio ar dystiolaeth, meddai’r Ceidwadwr Jonathan Morgan.
Roedd y Llywodraeth wedi derbyn y 12 argymhelliad yn yr adroddiad ond wedi beirniadu’r Pwyllgor am ddangos tuedd wleidyddol a bod yn annheg.
Doedd yr adroddiad, medden nhw, ddim wedi rhoi digono glod i lwyddiant rhai o’r cynlluniau mewn ardaloedd di-fraint ar hyd a lled Cymru.
Ymateb Jonathan Morgan
Nid rhoi sêr aur i gynlluniau unigol oedd rôl y Pwyllgor, meddai Jonathan Morgan, gan ddweud y byddai’n galw am ddadl lawr am yr adroddiad yn y Cynulliad.
Fe ddywedodd wrth Radio Wales bod yr adroddiad wedi ei seilio ar adroddiad cynharach gan yr Archwilydd Cyffredinol ac ar wybodaeth gan dystion.
“Ein gwaith ni oedd edrych ar y cynllun yn gyfan,” meddai. “Ein gwaith ni yw edrych ar amcanion polisi’r Llywodraeth.”
Beirniadu
Roedd yr adroddiad wedi beirniadu’r Llywodraeth am fethu â chadw llygad digon manwl na phwyso a mesur digon ar lwyddiant neu ddiffyg llwyddiant y cynllun.
Mae tua £200 miliwn wedi ei wario ar Cymunedau’n Gyntaf sy’n ceisio sbarduno gwaith cymunedol mewn tua 130 o gymunedau lle mae angen mawr.