Dyw’r tymor ddim drosodd o bell ffordd – dyna rybudd Joe Ledley i’w gyd-chwaraewyr, ar ôl i’r Adar Gleision sicrhau eu lle yn y gemau ail-gyfle.
Fe sgoriodd y Cymro unig gôl y gêm yn erbyn QPR. Fe gadarnhaodd hynny fod tîm Dave Jones yn cael cyfle arall i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.
Mae’r chwaraewr canol cae wedi galw ar y garfan i ganolbwyntio ar wneud eu gorau i sicrhau llwyddiant i’r clwb ar ddiwedd y tymor.
Pwyntiau, pwyntiau, pwyntiau
“Mae’n rhaid i ni ymdrechu i sicrhau gymaint o bwyntiau ac sy’n bosib yn y ddwy gêm olaf o’r tymor,” meddai Joe Ledley.
“R’yn ni’n haeddu bod yn y gemau ail-gyfle ar ôl y ffordd r’yn ni wedi chwarae y tymor hwn. R’yn ni wedi dysgu o’n camgymeriadau y llynedd, ac mae gyda ni garfan wych.
“Mae’r cefnogwyr yn mynd i fod wrth eu boddau, ond dyw’r tymor ddim ar ben eto. Fe fyddwn ni’n rhoi o’n gorau ym mhob gêm.
“R’y ni gyd am adael y Bencampwriaeth, ac mae gyda ni gyfle da.”