Stiwdant yn styc

Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor ymysg y rhai sydd wedi eu dal dramor am nad oes modd hedfan drwy’r cwmwl o lwch sydd wedi ei greu gan losgfynydd Gwlad yr Iâ.

Roedd Guto Dafydd o Drefor wedi mynd i ddinas Berlin am ychydig ddiwrnodau yr wythnos ddiwethaf. Roedd wedi bwriadu dod adref heddiw, ond mae’n ymddangos y bydd yn rhaid iddo ddisgwyl tan ddydd Gwener cyn gallu hedfan.

“Hyd yn oed pe na bai ond un awyren yn cael ei heffeithio, yn disgyn a phawb yn marw, mi fyddai hynny’n ddigon o reswm i gadw pawb rhag hedfan,” meddai Guto Dafydd.

“Mae cwmni hedfan easyJet yn dal i dalu fy nghostau gwesty a phrydau bwyd,” meddai wedyn. “Dydi hynny ddim yn deg, oherwydd nid eu bai nhw ydi o… ond mae ganddyn nhw fwy o bres na ni!”

Teithio ar y tir mawr

Mae Nerys John a’i theulu o’r Felinheli wedi bod ym Mhortiwgal ac yn trio dychwelyd adref. Maen nhw wedi penderfynu teithio ar y tir mawr yn hytrach na disgwyl am awyren i’w cludo.

Hyd yn hyn, maen nhw wedi osgoi Madrid ac wedi bod yn teithio rhwng Portiwgal a Sbaen, yn gobeithio yw cyrraedd Ffrainc a chroesi i wledydd Prydain.

“Fe fyddai trên o Seville i Madrid wedi costio 80 Ewro’r pen a gyda phedwar ohonon ni, mae hynny’n lot o bres,” meddai cyn dweud ei bod hi, ei gwr Gwilym John a’u plant Gruff , 18 a Gwen, 17 wedi penderfynu llogi car fore ddoe.

Mae’r teulu wedi teithio 400km ddoe ac yn gobeithio gwneud mwy na hynny heddiw – er eu bod nhw wedi cael tywydd ofnadwy ar hyd y daith.

Cymraes eisiau hedfan adref i America

Un arall sydd wedi’i dal rhag hedfan gartref yw Olwen Yu. Ond eisiau gadael Cymru am Princeton ger Efrog Newydd y mae hi.

Roedd hi’n disgwyl hedfan o faes awyr Manceinion ben bore ddoe. Ond fe fydd yn rhaid iddi aros o leiaf wythnos arall cyn gallu teithio.

Doedd gan Olwen Yu, sy’n dod yn wreiddiol o Lanberis ac sydd ar hyn o bryd yn aros gyda’i chwaer ym mhentref Bethel ger Caernarfon, ddim cynlluniau arbennig ar gyfer yr wythnos hon, dim ond treulio amser ar draethau ger ei chartref. Ond mae’n cytuno mai “diogelwch sy’n dod gyntaf,” meddai.

“Pan ddaru Mount Saint Helens ffrwydro, mi oedd yna lwch a phowdwr mân yn mynd i mewn i wddw, trwyn a llygaid pobol,” meddai. “Mi oedd o’n ofnadwy. Mi fasa unrhyw un sydd wedi gweithio yn Chwarel Dinorwig yn gwybod am be’ dw i’n sôn.”

Draw dros y don

Mae o leiaf ddau enw adnabyddus ar restr y rhai sy’n methu dychwelyd gartref. Ydach chi’n gwybod am fwy?

• Mae Eurig Wyn, y cyn-Aelod Seneddol Ewropeaidd o’r Waunfawr ger Caernarfon, ar ei ffordd yn ôl o Sardinia;
• Mae’r actor, Gwyn Elfyn (Denzil, Pobol y Cwm) yn dal i fod yn yn Efrog Newydd oherwydd helynt y llwch folcanig