Fe fydd y newidiadau i gwrs golff y Celtic Manor ar gyfer y Cwpan Ryder yn cael eu datgelu ym Mhencampwriaeth Agored Cymru fis Mehefin.

Mae cyfarwyddwr cyrsiau golff y clwb, Jim McKenzie, wedi dweud eu bod yn gweithio’n agos gyda chapten tîm Ewrop, Colin Montgomerie, er mwyn cwblhau’r newidiadau.

Fe fydd Pencampwriaeth Agored Cymru yn cael ei chynnal rhwng 3 a 6 Mehefin, cyn y Cwpan Ryder ym mis Hydref.


Mwy o fyncars

“R’yn ni wedi dyfnhau nifer o’r bynceri, ac fe fydd y garw yn llawer mwy trwchus nac yn y blynyddoedd cynt,” meddai Jim McKenzie.

“Fe fydd y lleiniau hefyd yn llawer mwy cadarn. Dyma rywbeth r’yn ni wedi bod yn gweithio arno ers i’r cwrs agor yn 2007. Mae wastad wedi bod yn flaenoriaeth gan Colin Montgomerie.”


Mantais Montgomerie

Dywedodd cyfarwyddwr cyrsiau golff y Celtic Manor y bydd yn fantais i Colin Montgomerie weld cystadleuaeth yn cael ei chwarae ar y cwrs newydd cyn y Cwpan Ryder.

“Rwy’n ffyddiog mai hwn fydd y cwrs golff anoddaf ond tecaf hefyd,” meddai Jim McKenzie.