Dylan Iorwerth yn egluro pam fod y ffenomenon wleidyddol ddiweddara’ yn perthyn i’r X Factor…
Ynghanol yr holl sylw i Nick Clegg mae’n werth cofio am un ymateb rhyfedd – ac arwyddocaol efallai – a ddaeth y diwrnod wedi dadl fawr yr arweinwyr.
Roedd y BBC’n holi pobol mewn sedd allweddol yn Oldham a’r rhan fwya’, yn ddigon naturiol, yn canmol perfformiad arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.
Roedden nhw’n cynnwys dyn a oedd yn ystyried pleidleisio iddyn nhw rŵan, gan droi oddi wrth ei hoff blaid cyn hynny … sef y BNP.
Does dim llawer yn gyffredin rhwng polisïau’r Democratiaid a’r BNP ar bynciau fel mewnfudo a chyfraith a threfn na llawer o faterion eraill, ond roedd y dyn yma’n hapus gyda’r ddwy.
Ffasiwn
Mae’r ymateb yn awgrymu tri pheth – bod pobol yn penderfynu ar sail un perfformiad teledu, mai’r argraff oedd yn bwysig nid y manylion, a bod etholwyr yn chwilio am ffordd o roi clec i’r ddwy blaid fawr.
Dyna pam fod angen gofal wrth edrych ar y polau piniwn. Mae yna rywbeth yn digwydd, ond mae’n rhy gynnar i ddweud beth. Caseg eira neu dân siafins.
Mae yna beryg bod yr ymateb yn perthyn i’r math o frwdfrydedd sydd yna tros ddigwyddiadau cyhoeddus eraill, o’r X Factor i angladd y Dywysoges Diana. Mae pawb eisio bod yn rhan ohono fo heb ystyried o ddifri pam.
Dim ond 9.9 miliwn – ar y mwya’ – oedd wedi gwylio’r ddadl, ond mae’r ffenomenon yn effeithio ar lawer mwy na hynny. Nid y perfformiad na’r polisïau sy’n bwysig, ond y ffasiwn.
Troed yn y drws
Fydd gwleidyddion mwya’ hirben y Democratiaid ddim yn gor-gynhyrfu chwaith ond maen nhw’n iawn i weld bod cyfle. Y dasg iddyn nhw ydi rhoi eu troed yn y drws sydd bellach yn gil agored.
Os na fedran nhw wneud hynny, mi all fod fel ymchwydd y Blaid Werdd yn 1989 … pobol yn bachu ar gyfle saff i roi rhybudd i’r pleidiau mawr bod rhaid newid eu ffyrdd.
Ar hyn o bryd, mae’n deg tybio y bydd y Democratiaid yn gwneud yn well nag unrhyw blaid Ryddfrydol ers degawdau ond mi fydd rhaid iddi ennill rhagor o dir eto cyn chwalu’r mowld.
Sioc
Mi fyddai’n sioc anferth iddi hi – ac i weision sifil – pe baen nhw’n gorfod mynd ati i weithredu maniffesto’r blaid, ond mi all hi gael dylanwad pwysig mewn senedd grog.
Ond beth bynnag ddigwyddith, mi ddylai corwynt y dyddiau diwetha’ sicrhau dau beth – bod y ddwy blaid Brydeinig fawr arall o’r diwedd yn cymryd digofaint pobol o ddifri a bod symudiad cry’ o blaid un o brif bolisïau’r Democratiaid.
Mae un pôl piniwn wedi dangos ei bod hi ar y blaen o ran canran ond yn drydydd o ran nifer seddi. Siawns nad ydi hynna’n ddigon i ddangos pa mor annheg ydi’r system bleidleisio.