Mae Arlywydd newydd Twrciaid Cyprus, Dervis Eroglu, wedi dweud y bydd yn parhau â thrafodaethau heddwch gyda Groegwyr yr ynys.

Roedd ofnau y byddai ei ethol yn arwain at atal y trafodaethau am ail-uno’r ynys ranedig.

Mae Dervis Eroglu yn arwain plaid yr UBP sy’n gwrthwynebu ail uno.

Bwrdd trafod

Ond yn dilyn ei fuddugoliaeth ddydd Sul, fe ddywedodd Dervis Eroglu y bydd yn trafod, a’i fod am weld cytundeb sy’n golygu y gall “ei bobol” barhau i fyw ar yr ynys efo “balchder.”

Mae ei sylwadau yn debygol o fod yn rhyddhad i arweinwyr Twrci, sydd am ymuno â’r Undeb Ewropeaidd. Mae trafferthion Cyprus yn un mater sy’n llesteirio’u cais.

Mae trafodaethau ynglŷn ag ail-uno’r ynys fel gwladwriaeth ffederal wedi bod yn digwydd rhwng y ddwy ochr ers 2008, drwy’r Cenhedloedd Unedig. Ond mae anghytuno cryf ar faterion sy’n ymwneud ag eiddo a diogelwch.

Ers 1974

• Fe ymosododd Twrci ar Gyprus yn 1974. Ers hynny, Twrci sydd wedi dal grym ar yr ochr ogleddol, a Groegwyr Cyprus sy’n dal yr ochor ddeheuol;

• Mae Twrci wedi gwrthod cydnabod llywodraeth Groegwyr Cyprus, ond dim ond Twrci sy’n cydnabod y gogledd, a sefydlodd gwladwriaeth annibynnol yn 1983;

• Mae ochr Groegwyr Cyprus eisoes yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.