Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gweld cynnydd mawr yn eu poblogrwydd mewn pôl piniwn ar ôl dadl cyntaf arweinwyr y pleidiau ddoe.
Mae pôl piniwn ITV/ComRes ledled Prydain yn awgrymu bod cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol wedi codi 3% i 24%.
Syrthiodd cefnogaeth Llafur 1% i 28% tra bod cefnogaeth y Ceidwadwyr wedi aros ar 35%.
Mewn pôl piniwn o 4,000 o bleidleiswyr oedd wedi gwylio’r ddadl neithiwr, roedd y gwahaniaeth yn fwy byth. Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol ar 35%, i fyny 14%, Llafur ar 24% a’r Ceidwadwyr ar 36%.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud bod perfformiad eu harweinydd yn “newid y gêm” wrth i arolwg arall ddangos fod 61% o wylwyr yn meddwl ei fod o wedi gwneud yn well nag Gordon Brown a David Cameron.
Cyfaddefodd arweinydd y Ceidwadwyr fod Nick Clegg wedi “gwneud yn dda yn y ddadl” wrth i’w blaid ymosod ar bolisïau “ecsentrig” y Democratiaid Rhyddfrydol.
Dywedodd y Prif Weinidog Gordon Brown bod y ddadl gyntaf wedi “rhoi egni newydd” i’r ymgyrch Etholiad Cyffredinol a chanolbwyntio meddwl y cyhoedd ar y “materion sydd o bwys”.
Ychwanegodd ei fod o wedi “mwynhau” ei ddadl ben-ben gyda David Cameron a Nick Clegg. Fe fu i gynulleidfa o 9.9 miliwn o bobol wylio’r ddadl.