Fe fydd Cerys Matthews yn chwarae yn Llanelli am y tro cyntaf heno wrth i’r gantores enwog barhau â’i thaith i hyrwyddo ei halbwm diweddaraf ‘Paid Edrych i Lawr.’

“Sa’ i wedi chwarae yn Llanelli o’r blaen – erioed. Fi mor excited ac yn edrych ’mlaen,” meddai’r gantores wrth Golwg360 heddiw.

Fe ddywedodd Cerys Matthews ei bod hi’n “licio teithio o leiaf dwywaith y flwyddyn”.

“’Dw i wastad wedi’i neud e, sai’n nabod bywyd arall. Mae pob perfformiad byw yn unigryw, mae e’n wahanol i recordio mewn stiwdio, ac mae’n teimlo’n relaxed.”

“Dw i’n licio’r two way conversation sy’n dechrau gyda’r gynulleidfa hefyd,” meddai cyn dweud fod y gynulleidfa’n dechrau “gofyn cwestiynau, dweud jôcs” ac “nad ydi hi’n gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf” mewn nosweithiau o’r fath.

“Dw i’n licio bod nosweithiau byw ddim yn scripted, dw i’n licio’r elfen spontaneous…A bod yn ymwybodol o’r awyrgylch.”

Deuawd â Bryn Terfel

Fis Mehefin, fe fydd Cerys Matthews yn rhyddhau albwm Tir. Bydd llawer o “hen ganeuon Cymraeg” ar yr albwm fel Myfanwy a Cwm Rhondda ynghyd â Migldi Magldi, sy’n ddeuawd gyda Bryn Terfel.

Yn ôl y gantores, fe wnaeth hi “drio” rhai o draciau yr albwm ym Mirmingham ar ddechrau’r daith ac fe wnaeth y gynulleidfa “rili mwynhau” y caneuon.

“Roedden o’n fantastic o brofiad. Pan ti’n rhoi’r caneuon yn eu cyd destun, maen nhw’n rili mwynhau nhw” meddai.

“Fi’n excited i weld beth mae pobl yn meddwl o ddeuawd Bryn Terfel a fi, mae lleisie’ ni mor wahanol.”

Cyflwyno, bywyd a’r dyfodol

Ar hyn o bryd, mae’r gantores yn “mwynhau cyflwyno” rhaglen ar orsaf ddigidol 6 Music ac un o’i hoff bethau am gyflwyno yw derbyn ceisiadau am ganeuon gwahanol.

“Dw i’n hoffi requests, sai’n licio chwarae pethau sy’n cael eu chwarae lot – fi’n hoffi pethau outside the box…..y syrpreisus sy’n dod rownd y gornel.

“Efo bywyd, y peth gore’ i mi yw dysgu rhywbeth newydd neu fy mod i’n dysgu rhywbeth newydd i rywun arall a chael hwyl”, meddai’r gantores, cyn dweud ei bod wedi rhyfeddu gyda rhaglen Brian Cox, Wonders of the Solar System, ar hyn o bryd.

“Mae sôn am rywbeth mor gymhleth mewn ffordd mor ddealladwy yn amazing.”

Yn ogystal â rhyddhau Tir, fe fydd y gantores yn mynd o amgylch Mississippi a Louisiana i wneud rhaglen ddogfen am ferched a’r blues ar gyfer Radio 4 ar ôl gorffen y daith.

Hefyd, bydd Cerys Matthews yn cynnal “ambell i gyngerdd dros yr haf” ac yn mynd ar daith i Iwerddon fis Hydref, meddai.