Mae wythwr y Gweilch, Filo Tiatia, wedi dweud ei fod yn disgwyl perfformiad cadarn arall pan fydd y rhanbarth yn wynebu Leinster heno.
Mae’r Gweilch sy’n ail yn y gynghrair Magners yn herio’r tîm sydd ar frig y tabl wrth geisio sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.
Fe fydd y rhanbarth Cymreig yn gobeithio adeiladu ar y fuddugoliaeth pwynt bonws yn erbyn Ulster nos Fawrth yn Ravenhill.
Er eu bod yn rhoi gorffwys i rai chwaraewyr allweddol – Ryan Jones, James Hook a Mike Phillips – mae Leinster hefyd heb rai o’u prif chwaraewyr, gan gynnwys Brian O’Driscoll.
Gêmau anodd – ‘dim problem’
Dyma fydd trydedd gêm y rhanbarth mewn saith diwrnod, ond dyw Tiatia (yn y lln) ddim yn credu bydd problem wrth i’r chwaraewyr baratoi ar gyfer her anodd arall.
“Mae cael gêm anodd arall yn syth yn rhoi cyfle i adeiladu momentwm ac i gymryd rhywbeth ymlaen o gêm i gêm,” meddai Filo Tiatia.
“Roedd pawn wedi mwynhau’r perfformiad nos Fawrth ac roedd yn ymateb perffaith ar ôl siom y penwythnos.”
Bryd hynny, fe gollon nhw o bwynt i Biarritz yng Nghwpan Henieken ar ôl perfformiad ymosodol da. Yn erbyn Ulster, fe gynhalion nhw’r momentwm a chipio pwynt bonws.
“Mae’r safon wedi cael ei osod ac mae’n rhaid i ni gynnal y safon hynny,” meddai Tiatia.
“R’yn ni’n wynebu her cyn sicrhau ein lle yn y gemau ail gyfle, ond rwy’n ffyddiog y gallwn ni gyflawni hynny ac r’yn ni wedi bod yn canolbwyntio ar hynny,” ychwanegodd yr wythwr.
Carfan y Gweilch
15 Lee Byrne 14 Nikki Walker 13 Sonny Parker 12 Andrew Bishop 11 Shane Williams 10 Dan Biggar 9 Jamie Nutbrown.
1 Paul James 2 Ed Shervington 3 Adam Jones 4 Ian Gough 5 Alun Wyn Jones 6 Jerry Collins 7 Marty Holah 8 Filo Tiatia.
Eilyddion – 16 Scott Baldwin 17 Craig Mitchell 18 Ian Evans 19 Ryan Jones 20 Mike Phillips 21 James Hook 22 Gareth Owen.