Mae Morgannwg wedi cyrraedd 309/9 ar ddiwrnod gynta’u gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Middlesex yn Lord’s.
Roedd y Dreigiau yn gwegian ac wedi cyrraedd 145-5 cyn i Jim Allenby a Mark Wallace gyfrannu 111 o rediadau – sgôr Nelson – i sefydlogi’r batiad.
Fe gipiodd Steve Finn wiced Mark Cosgrove gydag ail belen y dydd – ar ôl i hwnnw deithio bob cam o Awstralia y diwrnod cynt. Yna llwyddodd Gareth Rees a Michael Powell i wella’r sefyllfa gyda phartneriaeth o 84.
Gwan
Ar ôl i wicedi Rees a Powell ddisgyn, cyfrannodd Ben Wright 11 a Jamie Dalrymple 24 gan adael Morgannwg mewn safle gwan.
Fe wnaeth Allenby a Wallace ymladd yn ôl sicrhau sgôr mwy parchus i’r ymwelwyr. Fe ddaeth yr 111 o rediadau mewn 20 pelawd.
Bydd Wallace a Huw Waters yn parhau gyda batiad cyntaf Morgannwg pan fydd y gêm yn ail ddechrau’r bore yma.
Nelson – y cefndir
Mae 111 yn cael ei ystyried yn ffigwr anlwcus gan gricedwyr. Mae’n cael ei alw’n Nelson ar ôl y morwr a gollodd un fraich, un llygad ac un goes, a’r gred yw bod y rhif yn edrych fel wiced heb y bêls.
Llun: Jamie Dalrymple, un o arwyr Morgannwg