Mae Comisiwn y Cenhedloedd Unedig wedi beirniadu Pacistan am fethu ag amddiffyn y gwleidydd Benazir Bhutto cyn iddi gael ei llofruddio.

Yn ôl ymchwiliad y Comisiwn dweud y gallai llofruddiaeth cyn brif weinidog Pacistan fod wedi cael ei osgoi. Fe ddywedson nhw nad oedden nhw am roi barn a oedd y methiant yn fwriadol ai peidio.

Mae’r comisiwn hefyd wedi cyhuddo gwasanaethau diogelwch Pacistan a swyddogion eraill o rwystro’r ymchwiliad i’w llofruddiaeth ar ôl iddi ddychwelyd yno i geisio ail ennill grym.

Yn ôl yr adroddiad, roedden nhw hefyd wedi ceisio llesteirio ymchwiliad y Comisiwn.

Fe gafodd ei lladd mewn ymosodiad gan hunan fomiwr ar 27 Rhagfyr 2007 pan oedd wedi dechrau ymgyrchu ar gyfer etholiad.

Bygythiadau

Dywedodd y comisiwn y gallai marwolaeth Benazir Bhutto fod wedi cael ei osgoi pe bai’r llywodraeth a heddlu ardal Rawalpindi wedi cymryd y camau priodol i’w diogelu – roedd bygythiadau a chynigion eraill wedi bod i’w lladd.

Roedd yr Arlywydd ar y pryd, Pervez Musharraf, wedi rhoi’r bai ar arweinydd gwrthryfelwyr ym Mhacistan ond mae plaid Benazir Bhutto wedi awgrymu mai Pervez Musharraf neu ei gynghreiriaid oedd yn gyfrifol.

Mae’r comisiwn wedi galw ar yr awdurdodau ym Mhacistan i gynnal ymchwiliad i ddod o hyd i bwy oedd yn gyfrifol am y llofruddiaeth.

Llun: Benazir Bhutto yn Efrog Newydd (GNU _ IFareeq)