Mae arweinydd y protestiadau yn erbyn y llywodraeth yng ngwlad Thai wedi llwyddo i ddianc o dan drwynau’r awdurdodau yno.
Er ei fod mewn gwesty yn y brifddinas Bangkok, a hwnnw wedi ei amgylchynu gan heddlu’r wlad, llwyddodd Arisman Pongruanrong i ddringo i lawr rhaff a neidio i mewn i gar a dianc.
Roedd y Llywodraeth wedi addo dal y “terfysgwyr” oedd yn arwain protestiadau democratiaeth mudiad y Crysau Coch.
Ychydig funudau ynghynt roedd y Dirprwy Brif Weinidog Arisman Pongruanrong wedi cyhoeddi ar y radio bod yr heddlu wedi amgylchynu’r gwesty ble’r oedd arweinydd y brotest yn aros ac ar fin ei ddal.
Mae’r protestwyr wedi bod yn ymgyrchu ers wythnosau ar strydoedd Bangkok i gael gwared â’r Prif Weinidog Abhisit Vejjajiva a chynnal etholiadau newydd.
Y protestiadau
Mae miloedd o brotestwyr mewn crysau coch, y rhan fwyaf yn bobol dlawd o’r wlad, wedi bod ar y strydoedd ers 12 Mawrth. Dechreuodd y protestiadau’n heddychlon ond, wedi sawl brwydr gyda’r heddlu, mae 24 o bobol wedi eu lladd a 800 wedi eu hanafu.
“Mae yna derfysgwyr ymysg y protestwyr, ac maen nhw’n defnyddio arfau rhyfel,” meddai’r Dirprwy Brif Weinidog.
“Dylai protestwyr eraill adael ardal y brotest, er mwyn osgoi cael eu defnyddio’n darian ddynol. R’yn ni’n pryderu y bydd y terfysgwyr yn mynd ati’n fwriadol i anafu protestwyr er mwyn achosi trafferth.”