Mae pryder y bydd rhagor o wrthdaro rhwng De a Gogledd Korea ar ôl i’r De gyhoeddi mai ffrwydrad ‘o’r tu allan’ oedd wedi suddo un o’i llongau rhyfel.
Torrodd y llong 1,200 tunnell yn ddau ddarn ar ôl y ffrwydrad ar 26 Mawrth tra oedd hi’n teithio ar hyd y ffin yn y môr rhyngddi a’r Gogledd.
Cafodd 58 aelod o’r criw eu hachub, ond doedd dim golwg o’r 48 arall. Erbyn hyn mae yna amheuaeth, ond dim cadarnhad, fod gan Ogledd Korea ran yn y digwyddiad.
Mae tensiwn ysbeidiol rhwng y ddwy wlad – y Gogledd Comiwnyddol a’r De cyfalafol – yn codi’n gyson. Does dim diwedd swyddogol wedi bod ar ryfel rhwng y ddwy wlad yn yr 1950au.
Torpido?
Ymysg yr achosion y mae De Korea yn eu hystyried mae’r posibilrwydd bod Gogledd Korea wedi taro’n llong gyda thorpido, neu fod y llong wedi taro ffrwydryn oedd yno ers Rhyfel Korea 1950-53. Mae’r Gogledd yn gwadu unrhyw gyfrifoldeb am y digwyddiad.
Dechreuodd ymdrech i godi’r llong ddoe, ac mae’r achubwyr wedi dod o hyd i 38 o gyrff hyd yma. Does dim golwg eto o weddill y criw.
Ar ôl codi’r llong fe fydd yn cael ei symud i dir sych er mwyn ei harchwilio i geisio penderfynu beth yn union achosodd y ffrwydrad.
Llun llyfrgell: Rhai o longau De Korea yn yr un ardal (AP Photo)