Fe fydd barnwr yn cyhoeddi heddiw a ydi cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddifa moch daear yn gyfreithlon ai peidio.
Fe fydd elusen Ymddiriedolaeth y Moch Daear yn cael gwybod a ydyn nhw wedi bod yn llwyddiannus wrth herio Gorchymyn Dileu Twbercwlosis (Cymru) 2009 – ymgais y Llywodraeth i atal diciâu mewn gwartheg.
Roedd y gorchymyn yn rhoi’r rhyddid i Lywodraeth y Cynulliad ddechrau difa moch daear mewn rhan o ogledd Sir Benfro o fis nesaf ymlaen.
Roedd y seren roc Brian May o Queen yn un o’r rhai a aeth i’r adolygiad cyfreithiol yn Abertawe fis diwethaf er mwyn cefnogi’r ymgyrch yn erbyn y difa.
Dywedodd fod y cynllun yn “wyddoniaeth ddrwg” a honnodd y byddai lladd y moch daear yn debyg i “hil-laddiad”.
Y dadleuon
Dadl y Llywodraeth yw bod angen y cynllun arbrofol, a fydd hefyd yn cynnwys mesurau eraill i geisio rheoli’r afiechyd, sy’n costio mwy nag £20 miliwn y flwyddyn mewn iawndal.
Mae’r ymgyrchwyr yn honni nad oes prawf y bydd y difa’n gweithio ac y gallai wneud pethau’n waeth trwy ledu’r afiechyd.
Fe fydd canlyniad y gwrandawiad deuddydd yn cael ei ddatgelu heddiw yng Nghanolfan Cyfiawnder Sifil Caerdydd.