Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth llanc yng Nghaerdyddwedi cael rhagor o amser i holi dau ddyn.

Cafodd Aamir Siddiqi, 17 oed, ei drywanu i farwolaeth gan ddau ddyn mewn masgiau ar ôl iddyn nhw dorrii mewn i’w gartref yng Nghaerdydd brynhawn dydd Sul. Fe gafodd rhieni’r llanc eu hanafu hefyd wrth geisio’i achub.

Cafodd y dynion, 39 a 35 oed, eu harestio yn ardal Broadway y Rhath bnawn dydd Mawrth, meddai Heddlu De Cymru.

Gêm bêl-droed i gofio

Daeth ffrindiau Aamir Siddiqi at ei gilydd neithiwr i gynnal gêm bê- droed elusennol er cof amdano.

Cymerodd cannoedd o bobol ifanc, nifer yn gwisgo crysau t gyda “RIP Aamir. Aamir Siddiqi” ar y blaen a “Siddiqi” a’r rhif 23 ar y cefn, ran yn y gêm ym Mharc y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd.

Gwisgodd ffrindiau eraill grysau Manchester United, hoff dîm Aamir Siddiqi. Roedd munud o dawelwch ac yna cymeradwyaeth cyn dechrau’r gêm.

Dywedodd Inaam-ul Haq, 28, cyfaill i’r teulu a gweithiwr cymdeithasol, fod y gêm wedi dod â nifer o bobol o grwpiau gwahanol at ei gilydd.

“Roedd ffrindiau Aamir eisiau dod at ei gilydd a chofio Aamir a siarad amdano,” meddai.

“Roedd e wir yn mwynhau pêl-droed a heddiw daeth cymysgedd o bobol o bob hil, crefydd ac ysgol at ei gilydd o bob cwr o Gaerdydd.

Teulu’n dod i delerau

Ychwanegodd fod teulu Aamir Siddiqi yn dechrau dod i delerau gyda’r hyn ddigwyddodd.

“Maen nhw’n gwneud yn dda iawn, mae gyda nhw ffydd yn Nuw ac yn teimlo bod Aamir wedi mynd i le gwell a’i fod yn gyfle i ni ystyried ein pwrpas mewn bywyd.”