Fe fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ymosod yn chwyrn ar y Blaid Lafur wrth lansio eu maniffesto heddiw. “Difaterwch” yw eu cyhuddiad mawr.

Fe fydd y prif bwyslais ar fethiant honedig y Llywodraeth i wella economi Cymru , gyda diweithdra uwch na chenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig a llai o fusnesau newydd yn dechrau.

Mae’r arweinydd Cymreig, Nick Bourne, a’r llefarydd ar Gymru yn San Steffan, Cheryl Gillan, hefyd wedi rhoi addewid clir y bydd y blaid yn cydweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru hyd yn oed os bydd anghytuno tros bolisi.

Fel gyda Llafur ddoe, mae yntau’n ceisio pwysleisio bod yr etholiad yn frwydr uniongyrchol rhwng y ddwy blaid fwya’.

Mae’r maniffesto’n ail adrodd llawer o’r addewidion sydd yn y maniffesto Prydeinig, gan addo cryfhau’r economi, cefnogi teuluoedd a chreu cymunedau diogel.

Yr addewidion

Ond mae yna rai addewidion ychwanegol:

• I warchod yr arian cyhoeddus sy’n dod i Gymru ac i sicrhau y bydd digon o arian ar gael i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

• Cefnogi trydaneiddio’r lein reilffordd i’r De ac addo cysylltiad rheilffordd cyflym i Gymru.

• Caniatáu refferendwm ar ehangu pwerau deddfu’r Cynulliad.

Mae addewidion eraill o ddiddordeb arbennig i Gymru:

• Ei gwneud hi’n haws i gwmnïau bach gynnig am waith llywodraeth.

• Datblygu rhwydwaith band llydan trwy wledydd Prydain.

• Creu Banc y Gymdeithas Fawr i gynnig cefnogaeth ariannol newydd i grwpiau cymunedol a gwirfoddol.