Fydd yna ddim hedfan tros y rhan fwya’ o wledydd Prydain tan o leia’ saith o’r gloch heno.
Mae’r cymylau lludw o’r llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ yn dal i achosi helbul tros rannau helaeth o ogledd Ewrop.
Yr unig lygedyn o oleuni ar hyn o bryd yw y bydd ambell daith awyr yn bosib o ddau faes awyr yn yr Alban ac yn ym Melffast.
Does dim disgwyl y bydd unrhyw awyren yn gallu cyrraedd na gadael Maes Awyr Caerdydd yn ystod y dydd heddiw.
Fe fydd y gwaharddiad yn cael ei ailystyried yn ystod y bore gan yr awdurdod rheoli hedfan, NATS.
Y problemau’n parhau
Mae rhai arbenigwyr yn rhybuddio y gallai’r llosgfynydd barhau i ffrwydro am amser hir – misoedd hyd yn oed – ac y gallai’r lludw barhau i achosi trafferthion os bydd yn cael ei gario ar y gwynt.
Mae hedfan hefyd wedi ei wahardd yn Iwerddon a gwledydd Llychlyn – Norwy, Sweden, Denmarc a’r Ffindir – ac mae wedi amharu ar nifer sylweddol o deithiau tros Fôr Iwerydd. Y gred yw bod 10,000 o deithiau wedi eu hatal ddoe a heddiw.
Fe ddechreuodd peth o’r lludw syrthio i’r ddaear yng ngogledd yr Alban neithiwr – fe gyhoeddodd yr awdurdodau rybudd iechyd, gan bwysleisio nad oedd peryg mawr i iechyd.
Os bydd pobol yn dechrau pesychu neu’n teimlo cosi yn y trwyn, fe ddylen nhw fynd dan do am ychydig ac mae yna rybudd i bobol sy’n diodde’ o anhwylderau anadlu fynd â’u moddion gyda nhw.
Y cwmwl
Mae’r cwmwl lludw’n parhau ar lefel o rhwng 20,000 a 36,000 troedfedd uwchben y ddaear – union uchder hedfan y rhan fwya’ o awyrennau.
Yr hyn sy’n gwneud y broblem yn waeth yw bod y llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ wedi ffrwydro o dan rewlif Eyjafjallajokull.
Mae’r gymysgedd o wres a rhew wedi creu mwy o ludw nag arfer ac mae’r gwynt wedi chwythu’r cwmwl tuag at ogledd Ewrop.
Yng Ngwlad yr Iâ ei hun, mae ffrwydrad y llosgfynydd wedi achosi llifogydd wrth i’r rhewlif doddi.
Llun llyfrgell – Terminal 5 Heathrow