Y farn gyffredinol yw mai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol oedd enillydd y ddadl deledu gynta’ rhwng arweinwyr y tair plaid fawr Brydeinig.
Nick Clegg oedd wedi gwneud orau yn ôl y sylwebyddion ac roedd tri phôl piniwn cyflym wedi’r rhaglen ar ITV yn cadarnhau hynny’n gry’.
Ym mhob un, roedd arweinydd y drydedd blaid ymhell ar y blaen gyda David Cameron a’r Ceidwadwyr yn ail, ychydig o flaen y Prif Weinidog, Gordon Brown.
Ond, yng Nghymru, roedd Plaid Cymru’n feirniadol iawn o’r cyfan, gyda phoster yn cyhuddo’r tri o ddweud yr un hen bethau a chyhuddiad nad oedd yr un ohonyn nhw wedi sôn unwaith am Gymru yn yr awr a hanner.
Roedd amryw o’r cwestiynau ar faterion sydd wedi’u datganoli, gan olygu bod yr atebion yn amherthnasol i Gymru.
“Mi gafodd Cymru ei hanwybyddu heno,” meddai arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones. “Fydd pleidleiswyr Cymru ddim yn cael eu hanwybyddu gan Blaid Cymru.”
Yr arolygon
Roedd y tri arolwg barn cynta’ wedi’r ddadl yn dangos buddugoliaeth glir i Nick Clegg, gan roi blaenoriaeth iddo o rhwng 39% ac 17%.
• Mewn arolwg Populus i bapur y Times yr oedd y fuddugoliaeth gliria’, ac yntau’n cael sgôr o 61. Roedd David Cameron ar 22 a Gordon Brown ar 17.
• Roedd y patrwm yn debyg yn arolwg You Gov i’r Sun gyda Nick Clegg ar 51, David Cameron ar 29 a Gordon Brown ar 19.
• Yn arolwg Com Res i ITV ei hun yr oedd y bwlch lleia’, gyda Nick Clegg ar 43, David Cameron ar 26 a Gordon Brown ar 20.
Perfformiad y tri
Doedd yna ddim camgymeriadau mawr gan yr un o’r arweinwyr ond roedd gan y tri dactegau clir.
• Roedd Gordon Brown yn canolbwyntio a chodi ofn am y peryglon pe bai’r Ceidwadwyr yn dod i rym, gan geisio tynnu’r Democratiaid Rhyddfrydol yn nes ato ar faterion cyfansoddiadol.
• Fe gadwodd David Cameron at brif bwnc wythnos gynta’r etholiad – Yswiriant Gwladol. Roedd ganddo slogan parod: “Torrwch wastraff a stopiwch y dreth”.
• Fe lwyddodd Nick Clegg i osod ei hun ar wahân i’r ddau arweinydd arall, gan apelio at y rhai sydd wedi cael llond bol ar wleidyddiaeth a chyhuddo’r lleill o ddadlau ffug.
Fe gafodd Nick Clegg lonydd cymharol hefyd wrth i’r ddau arall fynd am yddfau’i gilydd – mae hynny’n debyg o newid erbyn y ddadl nesa’ ymhen wythnos.
Llun: Rhan o boster Plaid Cymru’n ymosod ar y ddadl