Mae Plaid Cymru wedi wfftio y ddadl rhwng arweinwyr y tair prif blaid heno gan ddweud mai “ffics” yw’r cyfan.

Mae’r pleidiau cenedlaetholgar Cymreig ac Albanaidd wedi beirniadu’r darlledwyr am beidio a gwahodd eu harweinwyr nhw i gymryd rhan gyda Gordon Brown, Nick Clegg a David Cameron.

Wrth i’r tri darpar brif weinidog baratoi i gamu o flaen y camerâu fe wnaeth Plaid Cymru lansio poster yn ymosod arnyn nhw fel yr “un hen bleidiau gyda’r un hen wleidyddiaeth”.

Dywedodd yr AC Helen Mary Jones, cyfarwyddwr ymgyrch etholiadol Plaid Cymru, eu bod nhw’n “canolbwyntio ar siarad gyda chymaint o bobol mewn cymaint o wahanol gymunedau a sy’n bosib”.

“Drwy wneud hynny fe allwn ni wneud yn siŵr bod ein blaenoriaethau allweddol, sef ailadeiladu economi Cymru a gwarchodd pobol bregus, fel pensiynwyr, yn cyrraedd eu clustiau nhw.

“Mae pobol wedi ‘laru ar yr un hen bleidiau a’r un hen wleidyddiaeth sydd wedi achosi’r trafferthion economaidd presennol.”

Yn gynharach yn y mis fe wnaeth Plaid Cymru a’r SNP apelio yn erbyn penderfyniad y BBC i beidio a chynnwys eu harweinwyr nhw, Ieuan Wyn Jones ac Alex Salmond, yn y ddadl etholiadol.

Fe fydd Ieuan Wyn Jones yn cymryd rhan yn y cyntaf o dair dadl rhwng arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru dydd Sul.