Ar ôl treulio traean o’i fywyd yn cynrychioli ward Bethel ar gyngor Gwynedd, mae Siôn Jones bellach yn paratoi am fywyd y tu allan i wleidyddiaeth.

Fe yw’r unig gynghorydd Llafur ar gyngor sydd â mwyafrif Plaid Cymru swmpus, ac mae wedi ennill enw am fod yn hynod weithgar dros ei ardal.

Daeth yn gynghorydd yn 2012 yn 20 oed, ac wrth iddo nesáu at ei 30au mae bellach wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll eto yn 2022.