Mae Cymru eisoes wedi datgelu cynllun i adeiladu draig anferth ger Wrecsam – ond fe allai ceffyl gwyn anferth yn ne ddwyrain Lloegr ennill y ras.
Mae Cyngor Bwrdeistref Gravesham wedi penderfynu rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer cerflun anferth o geffyl fyddai 33 gwaith yn fwy na cheffyl go iawn.
Bydd y ceffyl gan yr artist Mark Wallinger, cyn enillydd gwobr Turner, yn sefyll uwchben yr A2 yng Nghaint ac mae disgwyl y byddai 60 miliwn o bobol yn ei weld bob blwyddyn.
Cafodd ei ddewis ym mis Ionawr y llynedd ar ôl cystadleuaeth gan y Ebbsflett Landmark Project. Y nod yw codi 10,000 o dai newydd o amgylch gorsaf drenau rhyngwladol Ebbsfleet ac maen nhw’n gobeithio y bydd y gwaith celf yn denu pobol i fyw yno.
Dywedodd cyfarwyddwr y prosiect, Mark Davey, y byddai’r datblygiad hefyd yn creu tua 20,000 o swyddi newydd.
“Fe fydd Ceffyl Gwyn Mark Wallinger yn hwb i hunaniaeth ddiwylliannol yr ardal,” meddai.
“A fewn cenhedlaeth fe fydd 10,000 o dai a 400 acr o barciau a llynnoedd yn cael eu creu yma.”